Lleoliad y cyfarfod:
Y Siambr - Y Senedd
Dyddiad y cyfarfod:
Dydd Mawrth, 7 Mawrth
2017
Amser y cyfarfod: 13.30
Gellir gwylio’r cyfarfod ar Senedd TV
yn:
http://senedd.tv/cy/4252
Gweld Cofnod y Trafodion
Dechreuodd yr eitem am 13.30
Gofynnwyd y 7 cwestiwn cyntaf. Gwahoddodd y Llywydd arweinwyr y pleidiau i ofyn cwestiynau i’r Prif Weinidog ar ôl cwestiwn 2.
Dechreuodd yr eitem am 14.16
I Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi a’r Seilwaith:
Hannah Blythyn (Delyn): Pa drafodaethau y mae Ysgrifennydd y Cabinet wedi'u cael ar ddyfodol swyddi i weithwyr o Gymru a gaiff eu cyflogi yng ngwaith Vauxhall yn Ellesmere Port, yn sgil cyhoeddiad General Motors ei fod yn bwriadu gwerthu Vauxhall i Peugeot?
Dechreuodd yr eitem am 14.28
Dechreuodd yr eitem am 14.59
Dechreuodd yr eitem am 15.42
Gohiriwyd y bleidlais ar y cynnig o dan yr eitem hon tan y cyfnod pleidleisio.
NDM6236 Jane Hutt (Bro Morgannwg)
Cynnig bod y Cynulliad, yn unol â Rheol Sefydlog 20.30, yn cymeradwyo'r Ail Gyllideb Atodol ar gyfer y flwyddyn ariannol 2016-17 a osodwyd yn y Swyddfa Gyflwyno ac a e-bostiwyd at Aelodau'r Cynulliad ddydd Mawrth, 7 Chwefror 2017.
Troednodyn:
Yn unol â'r darpariaethau perthnasol yn Neddf Llywodraeth Cymru 2006 a Rheol Sefydlog 20, mae'r Gyllideb Atodol yn cynnwys y wybodaeth ganlynol:
(i) y datganiad ysgrifenedig sy'n ofynnol o dan adran 125(3) o Ddeddf Llywodraeth Cymru;
(ii) yr adnoddau y cytunwyd arnynt gan y Trysorlys ar gyfer cyllideb bloc Cymru yn y flwyddyn ariannol y mae'r cynnig yn ymwneud â hi;
(iii) cysoniad rhwng yr adnoddau a ddyrannwyd ar gyfer cyllideb bloc Cymru gan y Trysorlys a'r adnoddau yr awdurdodir eu defnyddio yn y cynnig;
(iv) cysoniad rhwng y symiau amcangyfrifol sydd i'w talu i Gronfa Gyfunol Cymru gan yr Ysgrifennydd Gwladol a'r symiau yr awdurdodir eu talu o'r Gronfa yn y cynnig; a
(v) cysoniad rhwng yr adnoddau i'w hawdurdodi o dan adran 125(1)(a) a (b) o'r Ddeddf a'r symiau yr awdurdodir eu talu o Gronfa Gyfunol Cymru o dan adran 125(1)(c).
Cynhaliwyd pleidlais ar y cynnig:
O blaid |
Ymatal |
Yn erbyn |
Cyfanswm |
27 |
0 |
26 |
53 |
Derbyniwyd y cynnig.
Dechreuodd yr eitem am 16.25
Gohiriwyd y bleidlais ar y cynnig a’r gwelliannau o dan yr eitem hon tan y cyfnod pleidleisio.
NDM6246 Jane Hutt (Bro Morgannwg)
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:
Yn nodi adroddiad blynyddol Prif Arolygydd Ei Mawrhydi dros Addysg a Hyfforddiant yng Nghymru ar gyfer 2015-16.
Cyflwynwyd y gwelliannau a ganlyn:
Gwelliant 1. Paul Davies (Preseli Sir Benfro)
Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:
Yn gresynu bod ansawdd ac amrywioldeb addysgu yn parhau i fod yn un o agweddau gwannaf y ddarpariaeth ar draws sectorau yn system addysg Cymru.
Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 1:
O blaid |
Ymatal |
Yn erbyn |
Cyfanswm |
26 |
0 |
27 |
53 |
Gwrthodwyd gwelliant 1.
Gwelliant 2. Paul Davies (Preseli Sir Benfro)
Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:
Yn gresynu nad yw'r system addysg yn diwallu anghenion pob dysgwr o hyd.
Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 2:
O blaid |
Ymatal |
Yn erbyn |
Cyfanswm |
26 |
0 |
27 |
53 |
Gwrthodwyd gwelliant 2.
Gwelliant 3. Paul Davies (Preseli Sir Benfro)
Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:
Yn nodi mai arweinyddiaeth yw'r ffactor mwyaf sy'n effeithio ar wella ysgolion ac yn galw ar Lywodraeth Cymru i gyflwyno gwybodaeth fanylach ynghylch sefydlu Academi Genedlaethol Arweinyddiaeth Addysgol, gan gynnwys ei chyllid, targedau, a sut y bydd arweinwyr yn gallu cael gafael ar ei chymorth.
Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 3:
O blaid |
Ymatal |
Yn erbyn |
Cyfanswm |
53 |
0 |
0 |
53 |
Derbyniwyd gwelliant 3.
Gwelliant 4. Rhun ap Iorwerth (Ynys Môn)
Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:
Yn gresynu at berfformiad cymharol wael yr unedau cyfeirio disgyblion a arolygwyd yn 2015-16, pan na nodwyd bod yr un ohonynt yn dangos arferion ardderchog, a gosodwyd y pedair mewn categori statudol camau dilynol, ac yn galw ar Lywodraeth Cymru i fynd i'r afael â gwendidau mewn darpariaeth, arweinyddiaeth a rheoli fel mater o frys.
Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 4:
O blaid |
Ymatal |
Yn erbyn |
Cyfanswm |
53 |
0 |
0 |
53 |
Derbyniwyd gwelliant 4.
Cynhaliwyd pleidlais ar y cynnig wedi’i ddiwygio:
NDM6246 Jane Hutt (Bro Morgannwg)
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:
1.Yn nodi adroddiad blynyddol Prif Arolygydd Ei Mawrhydi dros Addysg a Hyfforddiant yng Nghymru ar gyfer 2015-16.
2. Yn nodi mai arweinyddiaeth yw'r ffactor mwyaf sy'n effeithio ar wella ysgolion ac yn galw ar Lywodraeth Cymru i gyflwyno gwybodaeth fanylach ynghylch sefydlu Academi Genedlaethol Arweinyddiaeth Addysgol, gan gynnwys ei chyllid, targedau, a sut y bydd arweinwyr yn gallu cael gafael ar ei chymorth.
3. Yn gresynu at berfformiad cymharol wael yr unedau cyfeirio disgyblion a arolygwyd yn 2015-16, pan na nodwyd bod yr un ohonynt yn dangos arferion ardderchog, a gosodwyd y pedair mewn categori statudol camau dilynol, ac yn galw ar Lywodraeth Cymru i fynd i'r afael â gwendidau mewn darpariaeth, arweinyddiaeth a rheoli fel mater o frys.
O blaid |
Ymatal |
Yn erbyn |
Cyfanswm |
53 |
0 |
0 |
53 |
Derbyniwyd y cynnig wedi’i ddiwygio.
Dechreuodd yr eitem am 17.07
NDM6247 Jane Hutt (Bro Morgannwg)
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:
Yn dathlu Diwrnod Rhyngwladol y Menywod 2017 ac yn cydnabod swyddogaeth, cyfraniad a llwyddiannau menywod ym mywyd economaidd, gwleidyddol, cymdeithasol a diwylliannol Cymru.
Cyflwynwyd y gwelliannau a ganlyn:
Gwelliant 1. Rhun ap Iorwerth (Ynys Môn)
Ychwanegu pwyntiau newydd ar ddiwedd y cynnig:
Yn nodi bod menywod yn dal i gael eu tan-gynrychioli mewn swyddi arweinyddiaeth ac yn gresynu mai dim ond pedwar y cant o Brif Weithredwyr y 100 prif fusnes yng Nghymru a 31 y cant o aelodau byrddau prif gyrff a noddir gan Lywodraeth Cymru sy'n fenywod.
Yn galw ar Lywodraeth Cymru i ymrwymo i gyrraedd y trothwy cydbwysedd rhwng y rhywiau, bod 40 y cant o fyrddau cyrff a noddir gan Lywodraeth Cymru yn fenywod, a chynyddu nifer y menywod sy'n gadeiryddion ac sydd ar banelau cynghori cyrff a noddir gan Lywodraeth Cymru.
Derbyniwyd Gwelliant 1 yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.
Gwelliant 2. Rhun ap Iorwerth (Ynys Môn)
Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:
Yn gresynu bod y bwlch cyflog canolrifol yr awr rhwng dynion a menywod yng Nghymru yn 2015 yn 14.6 y cant.
Derbyniwyd Gwelliant 2 yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.
Gwelliant 3. Rhun ap Iorwerth (Ynys Môn)
Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:
Yn gresynu bod 29 y cant o fenywod a oedd yn gweithio yng Nghymru wedi ennill llai na'r cyflog byw, o'i gymharu â 20.5 y cant o ddynion, ar sail cyflog byw o £8.25 yr awr ym mis Ebrill 2016.
Derbyniwyd Gwelliant 3 yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.
Gohiriwyd y bleidlais ar y cynnig a’r gwelliant sy’n weddill o dan yr eitem hon tan y cyfnod pleidleisio.
Gwelliant 4. Rhun ap Iorwerth (Ynys Môn)
Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:
Yn credu y byddai cyfartaledd rhwng y rhywiau yng Nghymru yn gwella pe bai gwersi perthynas iach yn dod yn orfodol mewn ysgolion.
Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 4:
O blaid |
Ymatal |
Yn erbyn |
Cyfanswm |
20 |
0 |
33 |
53 |
Gwrthodwyd gwelliant 4.
Cynhaliwyd pleidlais ar y cynnig wedi’i ddiwygio:
NDM6247 Jane Hutt (Bro Morgannwg)
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:
1.Yn dathlu Diwrnod Rhyngwladol y Menywod 2017 ac yn cydnabod swyddogaeth, cyfraniad a llwyddiannau menywod ym mywyd economaidd, gwleidyddol, cymdeithasol a diwylliannol Cymru.
2.Yn nodi bod menywod yn dal i gael eu tan-gynrychioli mewn swyddi arweinyddiaeth ac yn gresynu mai dim ond pedwar y cant o Brif Weithredwyr y 100 prif fusnes yng Nghymru a 31 y cant o aelodau byrddau prif gyrff a noddir gan Lywodraeth Cymru sy'n fenywod.
3.Yn galw ar Lywodraeth Cymru i ymrwymo i gyrraedd y trothwy cydbwysedd rhwng y rhywiau, bod 40 y cant o fyrddau cyrff a noddir gan Lywodraeth Cymru yn fenywod, a chynyddu nifer y menywod sy'n gadeiryddion ac sydd ar banelau cynghori cyrff a noddir gan Lywodraeth Cymru.
4. Yn gresynu bod y bwlch cyflog canolrifol yr awr rhwng dynion a menywod yng Nghymru yn 2015 yn 14.6 y cant.
5. Yn gresynu bod 29 y cant o fenywod a oedd yn gweithio yng Nghymru wedi ennill llai na'r cyflog byw, o'i gymharu â 20.5 y cant o ddynion, ar sail cyflog byw o £8.25 yr awr ym mis Ebrill 2016.
O blaid |
Ymatal |
Yn erbyn |
Cyfanswm |
52 |
1 |
0 |
53 |
Derbyniwyd y cynnig wedi’i ddiwygio.
Dechreuodd yr eitem am 18.11
Daeth y cyfarfod i ben am 18.15
Cynhelir Cyfarfod Llawn nesaf y Cynulliad am 13.30, Dydd Mercher, 8 Mawrth 2017